11 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was.
12 Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di.
13 Ond wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis.”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon.
15 Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr.
16 Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi eu lladd.
17 Ond roedd Hadad wedi dianc, ac aeth i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd).