17 Ond roedd Hadad wedi dianc, ac aeth i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd).
18 Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo.
19 Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo.
20 Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath. Ond trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda plant y Pharo ei hun.
21 Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
22 A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?”“Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”
23 Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba.