19 Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo.
20 Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath. Ond trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda plant y Pharo ei hun.
21 Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
22 A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?”“Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”
23 Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba.
24 Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i wŷr wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a cafodd ei wneud yn frenin yno.
25 Roedd yn elyn i Israel trwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.