38 Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i – bod yn ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti.
39 Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.”
40 Dyma Solomon yn ceisio lladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.
41 Mae gweddill hanes Solomon, y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon.
42 Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.
43 Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.