1 Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin.
2 Roedd Jeroboam fab Nebat yn dal yn yr Aifft ar y pryd. Roedd wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd.
3 Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam.
4 “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”