24 ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.
25 Dyma Jeroboam yn adeiladu caer Sichem yn y bryniau yn Effraim, a mynd i fyw yno. Ond yna dyma fe'n adeiladu Penuel, a symud yno.
26 Roedd Jeroboam yn ofni y byddai'r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd.
27 Roedd yn ofni pe bai'r bobl yn mynd i aberthu yn Nheml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, y bydden nhw'n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e'i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw.
28 Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli.Bobl Israel, dyma'r duwiauwnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.”
29 A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan.
30 Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!