26 Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.”
27 Dyma fe'n gofyn i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny
28 dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nag ymosod ar yr asyn.)
29 Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu.
30 Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!”
31 Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e.
32 Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.”