6 Yna dyma'r brenin yn pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iawn fel o'r blaen.
7 Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.”
8 Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma.
9 Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”
10 Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel.
11 Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud yr hanes wrtho – beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi ei ddweud wrth y brenin.
12 A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion pa ffordd oedd y proffwyd o Jwda wedi mynd.