15 Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i Afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi ei wylltio trwy godi polion pren i'r dduwies Ashera.
16 Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.”
17 Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw.
18 A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy ei was y proffwyd Achïa.
19 Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
20 Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.
21 Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.