16 Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.”
17 Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw.
18 A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy ei was y proffwyd Achïa.
19 Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
20 Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.
21 Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.
22 Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nac roedd eu hynafiaid wedi gwneud.