24 Roedd yna hyd yn oed buteinwyr teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
25 Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem.
26 Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a palas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud!
27 Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tariannau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin.
28 Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.
29 Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
30 Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.