28 Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.
29 Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
30 Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.
31 Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Naäma, gwraig o wlad Ammon oedd ei fam. A'i fab, Abeiam, ddaeth yn frenin yn ei le.