4 Felly dyma wraig Jeroboam yn gwneud fel roedd ei gŵr wedi dweud wrthi, a mynd i dŷ Achïa yn Seilo. Roedd Achïa yn ddall, wedi colli ei olwg yn ei henaint.
5 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Mae gwraig Jeroboam yn dod atat ti i holi ynglŷn â'i mab sy'n sâl. Pan ddaw hi bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall. Dyma beth rwyt ti i'w ddweud wrthi: …”
6 Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti.
7 Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
8 Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion a'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i.
9 Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na pawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill – delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd.
10 Felly dw i'n mynd i wneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam.Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel,y caeth a'r rhydd.Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboamac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl!