13 Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Nant Cidron.
14 Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.
15 Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD.
16 Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy'r amser.
17 Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
18 Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'u rhoi i'w weision i fynd â'r cwbl i Ddamascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma:
19 “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”