17 Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
18 Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'u rhoi i'w weision i fynd â'r cwbl i Ddamascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma:
19 “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
20 Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n mynd ac yn taro Ïon, Dan, Abel-beth-maacha a tir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth.
21 Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa.
22 Yna dyma'r brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
23 Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt.