25 Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd.
26 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu.
27 Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwyn yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd.
28 Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab.
29 Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd yr un enaid byw o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei was Achïa o Seilo.
30 Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel.
31 Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.