26 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu.
27 Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwyn yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd.
28 Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab.
29 Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd yr un enaid byw o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei was Achïa o Seilo.
30 Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel.
31 Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
32 Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.