1 Dyma Jehw fab Chanani yn cael neges gan yr ARGLWYDD i'w rhoi i Baasha.
2 “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond rwyt ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw.
3 Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat.
4 Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinasyn cael eu bwyta gan y cŵn.Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwladyn cael eu bwyta gan yr adar!”