13 Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi eu gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth.
14 Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
15 Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd.
16 Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwyn yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel.
17 A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel.
18 Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi ei chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau.
19 Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.