17 A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel.
18 Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi ei chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau.
19 Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
20 Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
21 Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri.
22 Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
23 Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa.