31 Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu i Baal a'i addoli e!
32 Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi.
33 Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nac unrhyw frenin o'i flaen.
34 Pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, pan oedd yn gosod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn.