6 Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le.
7 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda teulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol!
8 Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd.
9 Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwyn yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Arsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).
10 Dyma Simri'n mynd i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.
11 Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd.
12 Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd.