8 Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd.
9 Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwyn yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Arsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).
10 Dyma Simri'n mynd i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.
11 Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd.
12 Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd.
13 Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi eu gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth.
14 Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.