1 Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”
2 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
3 “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
4 Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”