6 Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.
7 Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
8 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
9 “Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”
10 Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”
11 Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi i'w fwyta hefyd?”
12 Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”