11 A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’
12 Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.
13 Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.
14 A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”
15 Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”
16 Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.
17 Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”