14 A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”
15 Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”
16 Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.
17 Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”
18 Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!
19 “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”
20 Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel.