28 A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd.
29 Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.
30 Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio.
31 Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r enw Israel iddo).
32 A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor.
33 Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed.
34 Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr gyda dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.”Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma fe'n dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” felly dyma nhw'n gwneud hynny.“Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith.