40 Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at Afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno.
41 Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.”
42 Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau.
43 A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.
44 Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.”A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’”
45 Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel.
46 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.