8 “Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.”
9 Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i?
10 Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.
11 A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’
12 Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.
13 Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.
14 A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”