1 Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd.
2 Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”
3 Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd i Beersheba yn Jwda. Dyma fe'n gadael ei was yno,
4 a cerdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.”
5 Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.”
6 Edrychodd o'i gwmpas, ac roedd yna fara fflat wedi ei bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto.
7 Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.”