12 Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr.
13 Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo,“Be wyt ti'n wneud yma Elias?”
14 A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
15 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Dos i eneinio Hasael yn frenin ar Syria.
16 Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd.
17 Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw.
18 A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”