8 Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.
9 Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e,“Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”
10 A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.
12 Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr.
13 Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo,“Be wyt ti'n wneud yma Elias?”
14 A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”