22 A dyma'r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond yn gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e'n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.”
23 A dyma'r Brenin Solomon yn tyngu llw i'r ARGLWYDD, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda'i fywyd am ofyn y fath beth!
24 Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!”
25 Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw'n ymosod ar Adoneia a'i ladd.
26 Wedyn dyma'r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti'n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr ARGLWYDD, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau'n anodd.”
27 Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli.
28 Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.)