27 Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli.
28 Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.)
29 Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr ARGLWYDD, dyma fe'n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a taro Joab.
30 Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud.
31 A dyma'r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e! Lladd e yno, a'i gladdu. Byddi'n clirio fi a fy nheulu o'r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt.
32 Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd.
33 Bydd Joab a'i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr ARGLWYDD yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a'i ddisgynyddion, ei deulu a'i deyrnas am byth.”