36 Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Dwyt ti ddim i symud oddi yma.
37 Os gwnei di adael a hyd yn oed croesi Nant Cidron byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.”
38 A dyma Shimei yn dweud “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn.
39 Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”.
40 Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision. Yna dyma fe'n dod â nhw'n ôl.
41 Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl,
42 dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan oddi yma o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’