6 Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint.
7 “Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.
8 “A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’
9 Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”
10 Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd.
11 Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
12 Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf.