9 Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”
10 Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd.
11 Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
12 Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf.
13 Dyma Adoneia, mab Haggith, yn mynd i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti'n dod yma'n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai,
14 “Mae gen i rywbeth i'w ofyn i ti.”“Beth ydy hwnnw?” meddai hithau.
15 A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny.