11 Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau, dim ond pan fyddi'n ei rhoi i lawr!”
12 Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.
13 Dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
14 A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?”“Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd.A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?”“Ti,” meddai'r proffwyd.
15 Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.
16-17 Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e yn yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”
18 Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”