18 Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”
19 Roedd swyddogion ifanc y taleithiau yn arwain byddin Israel allan.
20 A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond dyma Ben-hadad yn dianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion.
21 Dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr.
22 Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a penderfynu beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”
23 Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.
24 Dyma sydd raid i ni ei wneud: Cael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.