23 Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.
24 Dyma sydd raid i ni ei wneud: Cael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.
25 Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle yr un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Wedyn awn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd. Byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu.
26 Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec.
27 A pan oedd byddin Israel wedi ei galw ac wedi derbyn eu cyflenwadau dyma nhw'n mynd allan i ryfel. Roedd gwersyll Israel gyferbyn â'r Syriaid ac yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i gymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!
28 Dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw y bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw y ddyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
29 Roedd y ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!