1 Brenhinoedd 20:29-35 BNET

29 Roedd y ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!

30 Dyma'r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw.Roedd Ben-hadad wedi dianc i'r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno.

31 A dyma'i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi raffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e'n arbed dy fywyd di.”

32 Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi raffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’”“Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd i mi.”

33 Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw'n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.”Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i'w nôl e.” A pan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i'w gerbyd.

34 A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.

35 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth rhyw ddyn oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod.