2 A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti yn ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.”
3 Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae'r tir wedi perthyn i'r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.”
4 Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, ac yn gwrthod bwyta.
5 A dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?”
6 A dyma fe'n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi, neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi'r winllan i mi.”
7 A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.”
8 Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a'u hanfon at yr arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth.