20 Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, ti wedi dod o hyd i mi, fy ngelyn!” A dyma Elias yn ateb, “Dw i wedi dod o hyd i ti am dy fod ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
21 Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben.Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel,sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.
22 Bydda i'n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’
23 “A dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’
24 ‘Bydd pobl Ahab sy'n marw yn y ddinasyn cael eu bwyta gan y cŵn.Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwladyn cael eu bwyta gan yr adar!’”
25 (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e.
26 Roedd yn gwneud pethau hollol afiach wrth addoli eilunod diwerth, yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.)