1 Aeth tair blynedd heibio heb i Israel a Syria fynd i ryfel yn erbyn ei gilydd.
2 Yn ystod y drydedd flwyddyn aeth Jehosaffat, brenin Jwda, i ymweld â brenin Israel.
3 Tra roedd e yno, dyma frenin Israel yn dweud wrth ei swyddogion, “Dych chi'n gwybod yn iawn mai ni sydd piau Ramoth-gilead, ond dŷn ni wedi gwneud dim i'w chymryd yn ôl oddi ar frenin Syria.”
4 Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!”