21 Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’“A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’
22 “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai.“A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’
23 “Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
24 Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
25 A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
26 Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab.
27 Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’”