33 dyma nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo.
34 Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”
35 Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.
36 Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.”
37 Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno.
38 Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
39 Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.