35 Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.
36 Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.”
37 Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno.
38 Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
39 Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
40 Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
41 Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd.