4 Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!”
5 Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
6 Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?”A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”
7 Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?”
8 A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.”“Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.
9 Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
10 Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo.