42 Roedd Jehosaffat yn dri deg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
43 Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
44 Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel.
45 Mae gweddill hanes Jehosaffat, y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
46 Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa.
47 Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw.
48 Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber.